Croeso i Y Gwir Mewn Gwyddoniaeth, mudiad sy’n hyrwyddo gwersi gwyddoniaeth safonol yn ein hysgolion. Rydym yn canolbwyntio’n hymdrechion ar darddiad bywyd ac amrywiaeth bywyd.
Am lawer o flynyddoedd, mae ymdriniaeth gwersi gwyddoniaeth o bwnc tarddiad bywyd wedi bod yn ddogmatig ac anghytbwys. Mae damcaniaeth Darwin ynglŷn ag esblygiad wedi cael ei dderbyn fel yr unig esboniad credadwy am darddiad bywyd. Ond er gwaethaf hynny mae’n amlwg o ddarllen deunydd academaidd a gwyddonol bod yna hen ddigon o fywyd yn y drafodaeth o hyd.
Mae cwricwlwm newydd ar waith yng Nghymru ers Medi 2008. Mae’n rhaid i ysgolion Cymru ddysgu’r cwricwlwm sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae’r Cwricwlwm Cymreig ei wneud yn ofynnol i ddysgu popeth o safbwynt Cymreig.
Tan yn ddiweddar, roedd yna bwyslais ar ddysgu bod anghytuno gwyddonol yn deillio o wahanol ffyrdd o ddehongli tystiolaeth empirig. Mae’r pwyslais wedi newid. Mae Adran 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol, “Data, tystiolaeth, damcaniaethau ac esboniadau” yn awgrymu y dylid dysgu disgyblion:
• i gasglu a dadansoddi data gwyddonol
• i ddehongli data drwy feddwl yn greadigol er mwyn darparu tystiolaeth ar gyfer profi syniadau a datblygu damcaniaethau
• y gellir esbonio sawl ffenomen drwy ddatblygu a defnyddio damcaniaethau, modelau a syniadau gwyddonol
• nad yw gwyddoniaeth ar hyn o bryd yn gallu ateb rhai cwestiynau.
Rydym o’r farn y bydd astudio Darwiniaeth, a’r helynt sydd o’i chwmpas, yn ofalus yn galluogi disgyblion i fodloni rhai o’r awgrymiadau yma. Ond prin yw’r ysgolion sy’n fodlon gwneud hyn, yn rhannol oherwydd bod nifer o werslyfrau poblogaidd yn derbyn Darwiniaeth fel yr unig ddamcaniaeth wyddonol o darddiad bywyd, ac yn anwybyddu eraill neu yn eu camddehongli.
Mae yna anghytuno mawr ynglŷn â damcaniaeth esblygiad Darwin. Mae’n ddadl ag iddi oblygiadau cymdeithasol, ysbrydol a moesol dwys. Mae mudiad Y Gwir Mewn Gwyddoniaeth yn annog ymchwiliad manwl o Ddarwiniaeth yn ein hysgolion, fel rhan annatod o wersi gwyddoniaeth.
Speculations on the chemical origins of life are almost universally covered in school curricula under ‘Evolution’, despite the questionable relevance of the topic for evolution, and its rather uncertain scientific basis.
Moore, A. (2008) Nature 453:31-32